Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Y Parchedig John Owen (1616-1683)
Gŵr o dras Gymreig oedd y pregethwr John Owen a chafodd ddylanwad aruthrol ar genedlaethau o bregethwyr Calfiniaidd Cymreig. Roedd yn awdur nifer o draethodau crefyddol, cefnogai'r Seneddwyr yn y Rhyfel Cartref a daeth yn Gaplan i Oliver Cromwell ac yn is-ganghellor Prifysgol Rhydychen. Hwyrach bod yr olwg ddwys ar ei wyneb yn awgrymu ei anghymeradwyaeth o’r artist John Greenhill, oedd yn enwog am fwynhau bywyd i’r eithaf, ac a foddodd mewn pwll o ddŵr ar ôl meddwi yn ddiweddarach. Greenhill oedd un o ychydig arlunwyr brodorol talentog yr 17eg ganrif ac mae wedi dal cymeriad cryf ond bywiog y clerigwr piwritanaidd hwn.
Pwnc
Celf
Rhif yr Eitem
NMW A 22
Derbyniad
Purchase, 1971
Mesuriadau
Techneg
oil on canvas
Techniques (fine art)
art dept - fine
Fine Art - painting
Deunydd
oil
canvas
Lleoliad
In store
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.