Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Stafell Wely Gweithiwr
Ar ôl bod yn astudio yn Ysgolion yr Academi Frenhinol ac yn gweithio fel cynorthwywr i Sickert, ymunodd Lewis y Chymdeithas Arlunwyr Llundain ym 1930. Yn Llundain rhannai lety gyda'i frawd, Eric, a ddarlunnir yma'n gwella ar ôl salwch. Peintiwyd y cyfansoddiad hwn yn gynnar yn y 1930au a chafodd ei arddangos gyntaf gan Gymdeithas Arlunwyr Llundain ym 1932. Mae'r tu mewn 'intimiste' yn dangos Lewis ar ei agosaf at arddull Sickert.