Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
The Ladies of Llangollen
Roedd y Fonesig Eleanor Butler a Sarah Ponsonby yn fenywod o dras bonheddig Eingl-Wyddelig, wnaeth oresgyn gwrthwynebiad gan eu teuluoedd a sgandal cymdeithasol gan redeg i ffwrdd gyda’i gilydd. Daethant i Blas Newydd, Llangollen, ym 1779 a buon nhw’n byw yno am dros hanner canrif. Roedden nhw’n gwisgo dillad gwrywaidd, yn llofnodi gohebiaeth ar y cyd ac yn gwrthod treulio un noson oddi cartref. Daeth eu ffyddlondeb i’w gilydd a’u ffordd ddelfrydol o fyw yn rhan o chwedloniaeth gyfoes. Roedd llawer o enwogion yn ymweld â nhw, gan gynnwys Dug Wellington, William Wordsworth a Walter Scott. Nid yw’n hysbys pryd y gwnaeth yr artist amatur, y Fonesig Leighton, y paentiad y mae’r lithograff hwn yn seiliedig arno. Yn ôl y sôn, doedd yr un o’r ddwy foneddiges yn fodlon eistedd i gael portread, ond roedd y ddwy am i’r llall wneud hynny.