Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Efa
Dechreuodd Rodin y gwaith hwn fel un o bâr o ffigyrau mawr o Adda ac Efa ar ôl eu Cwymp. Bwriedid hwy i sefyll o bobtu ei waith efydd 'Pyrth Uffern' a gomisiynwyd ym 1880 ar gyfer yr Ysgol Celfyddydau Addurnol ym Mharis. Mae osgo digalon Efa yn ein hatgoffa o waith marmor Michelangelo, 'Caethion', yn y Louvre. Eglurodd Rodin yr amgylchiadau pan roddwyd y gorau i'r ffigwr hwn: "Heb wybod pam, gwelais fy model yn newid. Newidiais fy llinellau, gan ddilyn yn ddiniwed y ffurfiau hyn wrth iddynt drawsnewid a chwyddo. Un diwrnod, clywais ei bod yn feichiog...helpodd hynny gymeriad y ffigwr yn rhyfeddol...roedd y fodel yn gweld y stiwdio'n rhy oer; byddai'n dod yn llai aml, yna peidiodd yn llwyr. Dyna pam na chafodd fy Efa ei gorffen". Ni arddangoswyd y ffigwr hwn yn y Salon hyd 1899, a chafodd ei osod ar y llawr heb stondin. Cafodd y gyfres efydd y mae'r gwaith hwn yn perthyn iddi ei chastio gan Alexis Rudier, a ddaeth yn fwriwr haearn i Rodin ym 1902. Cafodd ei brynu gan Gwendoline Davies ym 1916.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.