Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad clyweledol / Audio-visual recording: Anthony Wayne Wright
“Mae gan bawb yr hawl i fodoli.”
Mae Anthony Wayne-Wright yn rhan o ail genhedlath Windrush ac fe’I ganed yng Nghaerdydd yn 1963.
“Pan oeddwn i’n tua phedair ar ddeg, roedd yna chwech yn fy nheulu i, pedwar brawd a dwy eneth...”
“Ni [ail genhedlaeth Windrush] oedd y genhedlaeth gyntaf i gael ein geni yma ac fe wnaethon ni dreulio llawer o amser yn ceisio darganfod pwy ydyn ni... Doedd gen i ddim i ddisgyn yn ôl arno. Doedd gan lawer iawn o fy nghenhedlaeth i ddim. Doedd dim hyder gan lawer o bobl yn fy nghenhedlaeth i, dyna pam roedden ni’n dibynnu arnon ni ein hunain.”
“Pan ro’n i’n tyfu i fyny roedd y cwbl yn newydd... roedd y gair ‘Du’ yn bwerus... doedd dim llawer o hunaniaeth ar gael i rywun, roedd o’n beth sylfaenol iawn, [roeddet ti’n] un o’r ddau. Nawr, mae yna gymaint o wahanol hunaniaethau...”
“Rwy’n cofio yn yr ysgol bob blwyddyn, roedd gan y rhan fwyaf o ysgolion radio, roedden nhw’n cynnal cystadleuaeth caneuon, ac am 3 o’r gloch fe fyddai pawb yn pleidleisio dros gân ac roeddwn i’n teimlo’n falch pan enillodd Jamaica Farewell. Bob Marley a Muhammad Ali – doedden ni ddim yn gweld llawer o bobl dduon yn llawn balchder ar y teledu ac roedden nhw’n gwneud iti deimlo’n arbennig.”
“Fy nghof pennaf, weithiau.. roedden ni’n gallu ei glywed Dad yn feddw, yn sôn am gadwyni ar y coesau. Fel y dywedodd Chris Eubanks ‘Unwaith rwyt ti’n dysgu am gaethwasiaeth, mae bwrn caethwasiaeth arnat ti’... roeddwn i’n anghytuno’n llwyr ar y pryd, ond o edrych yn ôl, unwaith roeddwn i’n gwybod fod fy nhad-cu yn gaethwas, mae’n gwneud i rywun sylweddoli bod caethwasiaeth yn rhan anferthol o’n hanes ni.’”
“Fi yw’r unig fachgen sydd ar ôl, felly mi fydd yn rhaid imi fynd yn ôl un diwrnod. Mae pobl yn gofyn pam nad ydw i wedi mynd yn fy ôl, mae’n debyg fod arna i ychydig o ofn hefyd. Fydd mynd yn ôl ddim fel mynd ar wyliau, mi fydd yn beth emosiynol.”