Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Jug
Jwg cwrw mawr, bolgrwn yw hwn ag arno’r arysgrif ‘Joseph Vaughan Melyngriffy / Success to Admiral Rodney / And His Majestys Navy / 1784'. Dywedir iddo gael ei gomisiynu gan Joseph Vaughan a’i gefnder, sylfaenydd gweithfeydd haearn Belckow-Vaughan ym Middlesborough, a deithiodd drwy Gymru ym 1781. Mae’r jwg yn cofio buddugoliaeth y Llyngesydd Rodney a’r Cadfridog o Gymro, Syr John Vaughan, dros lyngesau’r Iseldiroedd a Sbaen yn St Eustatius yn India’r Gorllewin.