Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Adeiladau yn Napoli gydag ochr Ogledd-ddwyreiniol y Castell Nuovo
Astudiaethau Jones o Napoli oedd ei gyfraniad mwyaf arbennig a gwreiddiol at y traddodiad braslunio olew, a dyma'r cyntaf ohonyn nhw. Roedd e'n gweithio ar deras to ei lety gyferbyn â'r Dogana del Sale ar y pryd.
Y tu hwnt i'r adeilad gyda"i ddillad yn sychu gwelir wal a thŵr Castel Nuova a adeiladwyd yn y 13eg ganrif i'r chwith, a rhan o do a rhodfa'r Palas Brenhinol i'r dde. Mae coed y Largo del Castello'n sefyll rhwng y ddau, ac mae cromenni dwy eglwys a llusern y drydedd ar y gorwel.
Mae archwiliadau golau is-goch wedi dangos y tanluniadu helaeth sef brasluniau Jones o'r prif ffurfiau pensaernïol.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.