Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Answer book
Llyfr Ateb Amgueddfa Werin Cymru, 1958, yn y Gymraeg, gan Margaret E. Jones, 'Megan Mai', o Gwalchmai, Caergybi (ganwyd yn Llanengan). Mae'r Llyfr Ateb yn cynnwys gwybodaeth am hen ddiwydiannau Llŷn, geiriau llafar gwlad a'u hystyron, ofergoelion, meddyginiaethau a hen ffynhonnau yn ardaloedd Llanengan, Abersoch a Llŷn. Anfonwyd Llyfrau Ateb gan Amgueddfa Werin Cymru ym 1958 at unigolion ar draws Cymru er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am agweddau o ddiwylliant gwerin yn eu hardaloedd yn cynnwys amaeth, crefftau, bwyd, arferion a thafodiaith. Mae’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw yn y llyfrau. Roedd y Llyfrau Ateb yn ddilyniant i’r holiaduron a anfonwyd ym 1937.