Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Letter
Llythyr gan Isobel R. Thomson, gwraig Is-gapten RWP Thomson - arsylwr Wellesley - yn hysbysu Eli Evans iddi dderbyn cerdyn post gan ei gŵr yn dweud ei fod yn garcharor rhyfel yn yr Almaen. Nid oedd Eli Evans wedi clywed gair am ei fab cyn hynny.
Brodor o Gaerdydd oedd yr Is-lefftenant Arthur Wellesley Rees Evans (1898 – 1965) a ymunodd â’r Corfflu Hedfan Brenhinol ym mis Awst 1917. Diflannodd ar 21 Hydref 1918, tra’n hedfan i Köln gyda’r Lefftenant R. W. L. Thomson yn goruchwylio. Cafodd ei ddal a’i garcharu yng Ngwersyll Carcharorion Rhyfel Limburg yn yr Almaen. Derbyniodd ei dad, Eli Evans, nifer o lythyron am ei ddiflaniad. Dychwelodd Wellesley i Gaerdydd ar 10 Rhagfyr 1918.
Pwnc
Bywyd Gwerin
Rhif yr Eitem
F2012.5.48
Derbyniad
Donation
Mesuriadau
Deunydd
papur
Lleoliad
In store
Categorïau
First World WarNid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.