Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Baby's bib
Bib babi o gotwm gwyn gyda felcro i'w gau. Logo tafod y ddraig ar y blaen a'r slogan 'babi cymraeg'. Label y gwneuthurwyr ar y cefn a manylion gofal.
"Ma’r ‘brand’ yn bwysig. Dyna pam da ni’n cynhyrchu nwyddau. Ma nhw’n gallu bod yn ffynhonnel o incwm hefyd, ond llawer ohono fo ydi cael ein negeseuon allan. O fewn y Cymry Cymraeg ma pobl yn nabod y brand o ran y logo – y tafod – a ma hwnna di mynd yn eiconig a da ni’n falch o hynny.Ma’r gwaith lobïo da ni’n ei wneud ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Trwy greu syniadau manwl, deddfwriaethol, da ni’n gallu rhoi pwysau ar wleidyddion i wneud y pethau iawn. A da ni dal yn trefnu protestiadau a raliau wrth gwrs – cymysgedd o bethau". Robin Farrar, Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 2016.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.