Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
The Vulcan Hotel
Un o brojectau presennol yr Amgueddfa yw ailadeiladu Gwesty’r Vulcan. Cofrestrwyd y dafarn am y tro cyntaf ym 1853. Ei gyfeiriad oedd 10 Adam Street, Caerdydd, a fe wasanaethodd cymuned a elwir ar y pryd yn Newtown, a oedd yn gymuned Wyddelig yn bennaf. Bu’n dyst i newid mawr dros y blynyddoedd wrth i Gaerdydd dyfu yn ganolfan ddiwydiannol a phrifddinas y genedl, cyn cau ei drysau am y tro olaf yn 2012. Byddwn yn dangos y Vulcan fel ag yr oedd ym 1915, blwyddyn bwysig i’r dafarn. Roedd newydd gael ei hadfer yn helaeth, gan osod y teils gwyrdd adnabyddus ar y blaen a gwneud newidiadau i’r ystafelloedd.
Y tafarnwr ar y pryd oedd Dennis McCarthy oedd yn byw ar yr ail lawr gyda’i deulu, gan gynnwys Elen y baban a anwyd y flwyddyn honno. Dyma ni’n cyfweld ag Elen ym 2012 a hithau’n sôn am ei magwraeth yn y dafarn.
Nid y Vulcan oedd yr unig dafarn ar Adam Street – roedd tafarn y Wheat Sheaf ond tafliad carreg i ffwrdd, a’r Forester’s Arms ddim ymhell i’r cyfeiriad arall. Roedd hi’n ardal liwgar i fyw ynddi ond roedd yno gymuned gref. Mae adroddiadau papur newydd yn sôn am y noson y meddwodd Paul Begley yn dwll a thorri ffenest y dafarn, ac am Mary Ann M’Namara a geisiodd ddwyn chwisgi o’r bar pan oedd yn wag. Pan fydd y gwaith adeiladu wedi’i gwblhau, y gobaith yw y byddai pob un o’r cymeriadau yma’n teimlo’n gartrefol yn y Vulcan ar ei newydd wedd