Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Dau Ffurf
NICHOLSON, Ben (1894-1982)
O dan ddylanwad yr arloeswr celfyddyd haniaethol, Piet Mondrian o'r Iseldiroedd, daeth Nicholson yn un o Fodernwyr mwyaf digyfaddawd Prydain. Rhwng 1933 a 1945 bu'n ymchwilio i ffurf a gwagle drwy drefniadau haniaethol o gylchoedd a phetryalau. Yma, yr effaith gyffredinol yw golau ac eglurder. Mae'r darnau tywyll wedi eu hamgylchynu gan liwiau goleuach ac mae bloc gwyn yn tarfu ar y ffurf betryal fawr ar y dde. Mae 'Dwy Ffurf 'y teitl yn nofio o flaen cae o fandiau wedi eu graddio o led wyn i lwydlas.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.