Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Teulu Harri VIII: Alegori o'r Olyniaeth Duduraidd
Mae'r darlun hwn yn dathlu'r heddwch a sefydlodd y Frenhines Elisabeth I. Mae Elisabeth ar y dde yn dal llaw Heddwch ac mae Digonedd yn ei dilyn. Mae ei thad Harri VIII, sylfaenydd Eglwys Loegr, yn eistedd ar ei orsedd gan drosglwyddo cleddyf cyfiawnder i"w fab Protestannaidd, Edward VI. Ar y chwith mae hanner chwaer ac olynydd Elisabeth, y Babyddes Mari I a"i gŵr Philip II o Sbaen, gyda Mawrth, Duw Rhyfel. Mae'r llun, rhodd gan y Frenhines Elizabeth i Syr Francis Walsingham, yn enghraifft dda o ddiddordeb yr unfed ganrif ar bymtheg mewn alegorïau, gweledigaeth y Frenhines ohoni ei hun fel penllanw'r olyniaeth Duduraidd a'i phryder am gyfreithlondeb ei theyrnasiad.
Daeth Lucas de Heere i Lundain o Ghent ddiwedd y 1560au. Roedd yn un o nifer o arlunwyr a chrefftwyr Protestannaidd o Fflandrys a benderfynodd ffoi rhag erledigaeth grefyddol. Derbyniwyd y peintiad hwn dan y cynllun 'in lieu in situ'. Prynwyd y llun gan J.C.Dent yn arwerthiant casgliad Horace Walpole yn Strawberry Hill, ym 1842.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.