Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Y Forwyn a'r Plentyn gyda Sant Ffransis a'r Santes Lucy
Cafodd Allori ei eni a'i hyfforddi yn Florence. Comisiynwyd y darn allor hwn gan y Cardinal Ferdinando de' Medici fel rhodd i gartref newydd Felice Peretti, y Cardinal Montalto, a wnaed yn Bab Sixtus V ym 1585. Gellir cyfiethu'r arysgrif Ladin o dan wely'r Forwyn fel hyn: 'Peintiwyd gan Alessandro Allori, dinesydd o Florence, disgybl i Agnolo Bronzino 1583'. Mae Crist y Plentyn yn codi ei fraich i fendithio, a gerllaw mae dau angel yn dal mêl ac ymenyn, sef cyfeiriad at broffwydoliaeth Esesia. Wrth ei draed yn penlinio mae Sant Ffransis a'r Santes Lucy. Yr oedd i'r ddau arwyddocâd ysbrydol i'r Cardinal Montalto, a oedd yn aelod o'r Urdd Ffransisgaidd a aned ar ddydd gŵyl y Santes Lucy ar 13 Rhagfyr. Mae hi'n dal bowlen sy'n cynnwys ei harian gwaddol a roes i'r tlodion. Hefyd gwelir iau'r yrch a oedd i'w chludo i'w marwolaeth. Wrth ei thraed mae'r cleddyf a ddefnyddiwyd i'w lladd.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.