Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Chair
Yn yr Wyddgrug ym 1873, Hwfa Môn (Rowland Williams) gipiodd y gadair unwaith eto. Enillodd sawl cadair a choron eisteddfodol yn ogystal â beirniadu'r cystadlaethau. Roedd ganddo gryn bresenoldeb wrth areithio ac etholwyd ef yn Archdderwydd o 1895 hyd ei farw ym 1905. Mae’n enghraifft gynnar o’r math o gadair a ddaeth yn boblogaidd wedi hynny. Arni mae draig herodrol, telyn, uchelwydd, dail y dderwen a mes. Mae’r llythrennu cerfiedig yn cynnwys enw’r enillydd a’r lleoliad ynghyd â’r ymadroddion traddodiadol: ‘Goreu Arv: Arv Dysg’; ‘Yn Nawdd Duw a’i Hedd’; ‘Iaith Enaid ar ei Thannau’; ag arwyddair yr Orsedd ‘Y Gwir yn Erbyn y Byd’. Ar grib y gadair mae’r Nod Cyfrin neu’r 'pelydr goleuni', symbol yr Orsedd a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg. Fe'i gwelwyd am y tro cyntaf ar Sgrôl y Cyhoeddi yng Nghaerdydd, 1833. Erbyn 1850, roedd ar y baneri a welid mewn Gorseddau ac o tua 1860 ymlaen, ar dystysgrifau urddo aelodau newydd.