Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Guanyin, Duwies Trugaredd
Duw Bodhisattva neu Fwdistaidd yw Guanyin. Mae'r Bodhisattva wedi gweld y goleuni ond wedi penderfynu aros ymhlith dynion i'w helpu i gyrraedd nirvana. Erbyn y ddegfed ganrif OC mae'n debyg mai Guanyin, a gynrychiolai gydymdeimlad, oedd y ffigur mwyaf poblogaidd ym Mwdistiaeth Tseina. Câi'r duwdod ei ystyried yn gynyddol fel rhywun â phwer hud, a'i gysylltu â chwedlau Taoaidd a duwiesau gwarchodol crefydd boblogaidd. Erbyn y cyfnod Ming câi ei bortreadu'n aml fel duwies, fel a wneir yma.
Mae'n debyg i'r ffigwr hwn gael ei lunio yn nhalaith Shanxi yn Ngogledd Tseina lle'r oedd celfyddyd Fwdistaidd wedi datblygu nodweddion Tseineaidd penodol erbyn y ddeuddegfed ganrif. Mae wedi ei drwsio a'i ail-beintio droeon, ond yn wreiddiol bwriedid iddo edrych fel efydd wedi ei euro. Roedd yn un o nifer o gerfluniau pren Tseineaidd a oedd ar y farchnad yn Llundain yn y 1930au, a phrynwyd hwn gan frawd Gwendoline a Margaret Davies.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.