Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Slate trimming knife
Cyllell naddu a ddefnyddir ar gyfer naddu llechi â llaw. Mae'r gyllell wedi'i gwneud o haearn, gydag un ymyl wedi'i hogi (fel llafn cyllell) er mwyn naddu’r llechen.
Byddai'r gyllell naddu yn cael ei defnyddio ar y cyd â thrafael (mainc bren gyda llafn haearn sefydlog). Byddai'r chwarelwr yn naddu'r llechen i'w maint drwy ei orffwys ar lafn haearn y drafael, a thorri gyda'r gyllell naddu. Mae dwy ochr yn cael eu torri'n syth yn gyntaf i sicrhau ymyl syth. Yna mesurir y llechen gan ddefnyddio pric mesur (darn o bren gyda hoelen ar ei flaen a stepiau modfedd a dwy fodfedd ar ei hyd - stepiau modfedd hyd bedair modfedd ar ddeg, ac yna bob dwy fodfedd nes cyrraedd pedair fodfedd ar hugain). Ar ôl marcio'r llechen, caiff y ddwy ochr sy'n weddill eu naddu gan gynhyrchu llechen betryal berffaith o'r maint priodol. Cynhyrchodd y broses hon wastraff llechi man iawn.
Perchennog y gyllell naddu hon oedd Trevor Williams a weithiodd yn Chwarel Maenofferen, Blaenau Ffestiniog, rhwng 1935 - 1960. Cafodd y gyllell naddu ei gwneud I Trevor Williams gan un o ofaint Chwarel Maenofferen.