Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Pontardawe steelworks, photograph
Menywod yn cael eu cyflogi yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i ddadlwytho haearn crai o wagenni trên yng ngwaith dur Pontardawe, dan berchnogaeth William Gilbertson & Co. Ltd. Gan fod cymaint o ddynion wedi gwirfoddoli i ymuno â'r fyddin, roedd prinder llafur difrifol yn y diwydiannau hanfodol. O'r herwydd, ymunodd mwy o fenywod nag erioed o'r blaen â byd diwydiant er mwyn llenwi'r bwlch, gan wneud cyfraniad holl bwysig i ymdrech y rhyfel. Tynnwyd y llun hwn yn y cilffyrdd neu'r seidins haearn crai ger y gwaith smeltio. Mae'r nodyn “Munition Workers at Messrs Gilberston [sic] Pontardawe, King and Country” wedi'i sgrifennu â sialc ar y llen ddur yn y blaendir. Mewn sialc ar ddau ddarn o haearn crai mae'r nod gwneuthurwr “Trent” : roedd ffatri Trent Iron Works, Scunthorpe, yn eiddo i gwmni Trent Iron Co. Ltd ar y pryd. Ni wyddom a oedd gwaith dur Pontardawe yn defnyddio haearn crai Trent cyn neu ar ôl y rhyfel – efallai mai cyflenwad adeg rhyfel yn unig ydoedd, gan fod y brwydro wedi effeithio ar gyflenwadau arferol. Roedd pob darn o haearn crai yn pwyso tua 50kg – hen waith brwnt a digon annifyr oedd y dadlwytho a'r pentyrru hefyd. Yn ystod y rhyfel, parhaodd ffatri Pontardawe i gynhyrchu'r mathau arferol o ddur ar gyfer cynhyrchu tunplat a dur galfanedig, yn ogystal â throi at gynhyrchu mathau arbennig o ddur ar gyfer gwneud sieliau. Gwyddom pwy yw dau o'r criw: ar y dde isaf mae Annie Davies o'r Rhos, ac yn y cefn ar y chwith mae Jack Williams.