Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Afalau ar Gadair Wiail
SMITH, Matthew (1879-1959)
Ganed Smith yn Halifax a chafodd ei hyfforddi yn Ysgol Gelfyddyd Manceinion ac Ysgol y Slade. Treuliodd rhwng 1910-12 ym Mharis gan fynychu ysgol Matisse, ac ym 1914 cymerodd stiwdio yn Fitzroy Street ger Tottenham Court Road. Daeth Smith yn un o feistri lliw ei ddydd ym Mhrydain, ac mae'r darlun bywyd llonydd grymus hwn yn dangos ei ddyled i Matisse a'r mudiad Fauve. Prynodd Margaret Davies y gwaith ym 1961.
Work was part of the AFA tour (2009-2010): From Turner to Cézanne: Masterpieces from the Davies Collection, National Museum Wales
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.