Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Traeth gyda Ffigurau Eisteddog, La Côte Déserte
Lleoliad y paentiad hwn yw La Grande Plage, y traeth mawr yn St. Trojan, ar Ile d'Oloron, ynys fawr ym Mae Gwasgwyn. Heddiw mae'r gyrchfan dwristiaid boblogaidd wedi'i chysylltu i'r tir mawr gan bont 3km o hyd, ond pan ymwelodd Paul Delance ym 1900 roedd yn rhaid cyrraedd mewn cwch. Y 'traeth bach' ar ochr gysgodol, ddwyreiniol yr ynys oedd y prysuraf a mwyaf datblygedig, ond byddai unrhyw un a aeth, fel Paul Delance, am y diwrnod i'r ochr orllewinol agored yn mwynhau golygfeydd o draethau hir mawreddog yn ymestyn at yr Iwerydd.
Ystyr enw Ffrangeg y paentiad, La Côte déserte, yw Yr Arfordir Gadawedig, sy'n awgrymu bod hon yn ardal bellennig. Er bod clwstwr o ffigurau i'w gweld yn y blaendir, maent yno i gyfleu gwacter aruthrol y traeth wrth eu cefnau, a chynyddu'r ymdeimlad o unigedd. Yn y brwswaith egnïol gallwn ddychmygu'r artist yn gweithio'n frysiog mewn gwynt main i gyfleu'r olygfa a'r awyrgylch. Mae'r braslun bychan hwn yn wahanol iawn i'r gweithiau mawr, ffurfiol mae'r artist yn adnabyddus amdanynt. Fel cofnod preifat o drip i'r traeth gyda ffrindiau, mae'n dangos ei hoffter o baentio yn yr awyr agored.
Gwelwyd y gwaith mewn arddangosfa o baentiadau gan Walter Sickert a Paul Delance yn oriel y gwerthwyr Roland, Browse & Delbanco yn Llundain ym 1957 . Yn y catalog gwelwn fod y rhan fwyaf o astudiaethau tirlun Delance yn eiddo i'w ferch, Alice (1888-1973). Mae'r gwaith hwn yn un o ddau a brynwyd gan Daphne Llewellin o Frynbuga, a'u gadawodd i'r Amgueddfa mewn cymynrodd. Y gwaith arall oedd Golygfa o Fryn, Sannois, Seine-et-Oise.