Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Photograph (print)
Ffotograff o Mr Hugh Richard Jones yn sefyll y tu allan i Dŷ’r Peiriannydd yn y Gilfach Ddu (cartref Amgueddfa Lechi Cymru erbyn hyn).
Dechreuodd Mr Hugh Richard Jones (a oedd yn cael ei adnabod fel Hugh Rich) weithio yn Chwarel Dinorwig yn Ebrill 1926 (15 oed) fel prentis ffitar. Yn ddiweddarach fe’i dyrchafwyd yn Brif Beiriannydd Chwarel Dinorwig a daliodd y swydd honno hyd nes i’r chwarel gau yn Awst 1969. Chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu Amgueddfa Lechi Cymru yng ngweithdai’r Gilfach Ddu, a daeth ei freuddwyd o ddiogelu’r gweithdai yn realiti pan agorwyd yr amgueddfa gyntaf ym mis Mai 1972. Penodwyd Hugh Richard Jones yn Guradur cyntaf Amgueddfa Lechi Cymru a bu’n gweithio yno hyd ei ymddeoliad ym mis Mawrth 1981.
Bu Hugh Richard Jones yn byw yn Nhŷ’r Peiriannydd ar safle’r Gilfach Ddu rhwng 1928 a 1936 gyda’i dad (Joseph Jones) a’i deulu. Roedd Mr Joseph Jones (tad Hugh Richard Jones) yn gweithio fel fforman ar Reilffordd Padarn ac yn byw yn Nhŷ’r Peiriannydd rhwng 1928 a chanol y 1950au.