Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Bee shelter
Cyn i siwgwr ddod yn gyffredin yn ystod y 18ed ganrif, defnyddid mêl gan y rhan fwyaf o bobl at felysu diodydd a bwydydd. Roedd yr hen Eifftiaid eisioes yn wenynwyr tan gamp, ac roedd ganddynt hwythau gychod gwenyn.
Mae'r hen gyfreithiau Cymraeg a roddwyd ar glawr a chadw yng nghyfnod Hywel Dda yn rhoi tystiolaeth inni am gadw gwenyn yng Nghymru ar y pryd. Mae'n debyg y plethid y cychod cynnar hyn o wiail, ac mae cofnodion am gychod gwenyn o'r math hwn i'w cael ar draws Ewrop gyfan yn yr Oesoedd Canol. Yn ddiweddarach, daeth cychod o wellt torchog - a roddai'r ffurf ar gychod gwenyn sy'n gyfarwydd i ni bellach - yn fwy pobologaidd na'r cychod gwiail.
Yn aml byddid yn taenu clai neu fiswail dros wellt neu wiail y cwch gwenyn fel y byddai'n fwy tebygol o ddal dŵr. Cedwid haid o wenyn ym mhob cwch, a byddent yn mynd a dod trwy adwy bychan wrth waelod y cwch.
Weithiau codwyd cysgodfeydd arbennig gyda thoeau i gadw nifer o gychod gwenyn ar un neu fwy of silffoedd. Yng Nghymru, lluniwyd y rhain o garreg fel arfer, gydag un ochr agored - yn wynebau tua'r de neu'r de-ddwyrain. Neu fe gedwid y cychod mewn cilfachau unigol, a oedd yn aml yn rhan o wal yr ardd.
Gallai wal gynnwys un neu ddwy o'r cilfachau hyn, neu hyd at ddeg neu ragor. Mewn un safle yn Rhuthyn ceir pump ar hugain o gilfachau o'r fath. Mae lle i chwe chwch gwenyn ar ddwy silff garreg yn y gysgodfa wenyn a ailgodwyd yma.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.