Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Late Bronze Age bronze shield
Tarian efydd, 1000-800 CC. Daeth i'r fei yn Llanbedr, Harlech.
O gymharu â chastio efydd, roedd angen sgiliau tra gwahanol i greu tarian fel hon. Daeth gofaint Oes yr Efydd yn feistri ar dechnegau gwaith dalen tua 3,300 o flynyddoedd yn ôl. Cafodd y darian hon ei morthwylio o ddisgen gron tua 15cm o ddiamedr. I greu dalen mor denau â hon, bu’n rhaid curo, cynhesu ac oeri’r efydd yn araf dros 200 o weithiau. Cafodd y bogail a’r cylchoedd eu morthwylio a’u curo ar ochr gefn y darian, gan orffwys y metel ar blocyn pyg, clai meddal neu ledr.
SC5.5
Pwnc
Rhif yr Eitem
Gwybodaeth am y darganfyddiad
Enw'r Safle: Gwern Einion Cromlech, Llanbedr
Nodiadau: Found standing on its end in a peat bog 400 yards south-east of the cromlech.
Derbyniad
Mesuriadau
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.