Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
London, Waterloo Bridge
Cynhyrchodd Kokoschka nifer o dirluniau panoramig drwy 'lygad aderyn'. O wythfed llawr Gwesty'r Savoy rhwng 10 Mawrth a 28 Ebrill 1928 peintiodd olygfa i fyny ar hyd afon Tafwys ac mae'r gwaith hwn yn dangos yr olygfa i lawr ar hyd yr afon. Yn y tu blaen mae'r badau tynnu'n mynd o dan bont Waterloo, ac ar y chwith gwelir Glannau Tafwys o Somerset House hyd at y Ddinas ac Eglwys Sant Paul. Ganed Kokoschka yn Awstria a bu'n gweithio'n bennaf yn Fienna, Berlin, Dresden a Prague tan 1938, pan ddihangodd i Brydain.