Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Aeneas yn yr Isfyd
Mae'r ymladdwr Aeneas o Droea wedi mentro i'r Isfyd i chwilio am ei dad marw. Fe'i hamgylchynir gan ysbrydion ac mae golwg arswydus ar ei wyneb. Cymerwyd yr olygfa hon o'r' Aeneid' gan y bardd Rhufeinig Fyrsil: 'Mewn arswyd mae Aeneas yn cydio yn ei gleddyf ac yn ei dynnu o'r wain i ymladd ei wrthwynebwyr.' Mae'n dod ato'i hun pan wâl mai drychiolaethau afreal yn unig sy'n ei fygwth. Rubens oedd arlunydd mwyaf llwyddiannus ei gyfnod. Peintiwyd y rhan fwyaf o'i weithiau mawr gyda chymorth arlunwyr cynorthwyol y gweithdy, ond byddai'n cynhyrchu brasluniau llai fel hwn ei hun er mwyn paratoi ar gyfer gweithiau mwy.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.