Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad clyweledol / Audio-visual recording: Daisy Maynard
“Sut mae byw? Byw bywyd da, os welwch chi rywun ar y stryd sydd ar y llawr, ceisiwch roi help llaw iddyn nhw.”
Ganed Daisy Maynard ym mis Tachwedd 1925 yn Basseterre, St Kitts. Daeth i Heol Portmanmoor, Caerdydd.
“Roedd gan fy mam wyth ohonon ni... saith o enethod ac un bachgen. Y drydedd ydw i, rwy’n credu...”
“Lle o’r enw Brimstone Hill, [St Kitts] pan ewch i fyny yno, mae’r byd i gyd i’w weld o’ch blaen...”
“[Pan ddois i yma], tua 19 oed, o leiaf... dod i weld Lloegr oedden ni, ond a dweud y gwir... pan ddois i yma, fe gawson ni ail... doedd hi ddim mor grand â hynny yma.”
“[Fy swydd gyntaf] oedd yn Super Oil Seals... os ewch chi yno, dim ond pobl croenliw sydd yno, achos mai dyna’r gwaith oedden nhw’n ei wneud...”
“Yna, fe wnes i fynd i Ysbyty Hamadryad [Butetown, Caerdydd]... [yna] roeddwn i fyny yn y Rhath... o’r fan honno... dal i symud ymlaen, Ysbyty Trelái [Lansdowne].”
“Mi fuodd gen i lu o ffrindiau erioed, hyd yn oed pan [roeddwn] yn byw yn Trelái, arferwn i fynd i’r dociau a gwneud pethau cymdeithasol.”