Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Fâs wedi'i Chwythu Ymaith, Dros y Dibyn, Tân Gwyllt XII
Gyda’u lliwiau cyfoethog a’r gwead arwyneb fel ffresgo mae’r llestri y mae Elizabeth Fritsch yn eu creu â llaw yn bleser i’w gweld a’u cyffwrdd. Gwrthrychau hynod gymhleth yw’r rhain fodd bynnag ac mae myrdd o ddiddordebau deallusol – o theori cerdd a mathemateg i lenyddiaeth, myth a daeareg – ynghudd yn y clai. Mae Fritsch hefyd yn chwarae â’r llygad wrth i ofod dychmygol y patrymau ar yr arwyneb ymateb i ofod real y gwrthrych 3D. Ymgorfforiad o awyr y nos yw’r grwnd glasddu yn Tân Gwyllt XII. Ymddengys fel petai gronynnau wedi’u gwasgaru a fflachiadau gwyn yn arnofio mewn gofod o fewn, neu tu hwnt i siâp y llestr, rhith sy’n dadffurfio arwyneb y llestr ac yn herio ein hymwybyddiaeth o realiti. Fritsch yw’r prif artist cerameg o dras Cymreig, ac wedi mynd ati yn nechrau’r 1970au i ailddiffinio rhychwant y mudiad cerameg crefft gellir dadlau taw hi yw crochenydd pwysicaf ei chenhedlaeth.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.