Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
John Cory (1828-1910)
Ar ôl ei ethol yn Gymrawd yr Academi Frenhinol ym 1899, dechreuodd Goscombe John dderbyn comisiynau ar gyfer cerflunwaith cyhoeddus a phortreadau o ffigurau mawr bywyd cyhoeddus. Ym 1905 gwnaeth gerflun efydd o'r dyngarwr John Cory a godwyd o flaen Neuadd y Ddinas. Roedd John yn fab i Richard Cory oedd yn masnachu rhwng Caerdydd, Bryste ac Iwerddon. Ym 1859, sefydlodd John a'i frawd Richard eu cwmni allforio glo eu hunain, Cory Brothers and Co. Sefydlodd y cwmni storfeydd, swyddfeydd ac asiantaethau ym mhedwar ban y byd. Yn ogystal roedden nhw'n berchen ar byllau glo a nhw oedd perchnogion wagenni preifat mwyaf y DU yn ôl y sôn. Roedd y ddau frawd yn cefnogi'r Mudiad Dirwest ac yn Fethodistiaid gweithgar. Roedd John yn rhoi bron i £50,000 y flwyddyn i elusennau yn y blynyddoedd cyn ei farwolaeth. Mae'n debyg mai rodd i Cory oedd hwn i ddathlu dadlenni cerflun Neuadd y Ddinas.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.