Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Dolydd New Jersey, New Jersey
Wedi ei ysgrifennu ar gefn y gwaith hwn: "Yng ngaeaf 1965, es i draw i grwydro tir gwastraff diwydiannol ar draws Afon Hudson o Ddinas Efrog Newydd i New Jersey. Cerddais ar y ffyrdd llychlyd a arweiniodd drwy'r corstiroedd gyda thomenni sbwriel tirlenwi fel mynyddoedd o’m cwmpas. Yno, cwrddais â Willie Royka, oedd yn chwilio’r tomenni am fetel sgrap gyda'i fab ifanc Willie Jr. yn ystod y misoedd cynhesach ac yn dal llygod mwsg pan oedd hi’n oerach pan oedd eu ffwr yn fwy trwchus. Fe wnaethon nhw fy arwain yn ddwfn i ddolydd New Jersey lle roedd y brwyn tal yn cuddio amlinell Manhattan a daeth y corstiroedd yn fan gwyllt dilychwin. Ar y llanw isel, gwnaethom ein ffordd trwy'r llaid i'r trapiau a'r llygod mwsg oedd wedi’u boddi. Ar ddiwedd y dydd cefais wahoddiad ganddynt i’w cartref lle roedden nhw’n blingo ac yn sychu'r crwyn i'w gwerthu. Maen nhw hefyd yn tynnu’r chwarren mwsg a all ddal yr arogl a ddefnyddir mewn prosesau gwneud persawr. Ar ôl i mi dynnu llun o'r teulu, meddyliais y byddai'n ddiddorol gwneud ffilm am eu ffordd o fyw o'r enw, Living Off the Land. Er bod y llun yma wedi cael ei gyhoeddi o'r blaen mewn dau o fy llyfrau, nid yw’n denu fawr o sylw." — Bruce Davidson