Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Franklyn Parris
“Pan ddois i yma… roedd fel rhyddhau aderyn o’i gaets, wyddoch chi...”
Ganed Franklyn Parris yn St Kitts yn 1947. Pan roedd yn naw oed ymadawodd ei dad a mynd i Brydain ac aeth Franklyn i fyw gyda’i fam-gu.
“Cigydd oedd fy nhad yn India’r Gorllewin, a phan ddaeth e yma, roedd e’n gweithio yn yr hafnau glo lan yn Nantgarw... Pan roeddwn i’n chwech oed, nes oeddwn i’n tua naw, roeddwn i’n mynd i’r farchnad bob nos Wener gyda ’nhad i ladd yr anifeiliaid i’w gwerthu yn y farchnad ar ddydd Sadwrn.”
“Pan roeddwn i’n ifanc, roeddwn i eisiau tyfu i fyny i fod yn weinidog yn yr eglwys. Roedd yr eglwys yn rhan fawr o fy mywyd, yn enwedig yn fy mhlentyndod pan roeddwn i’n mynd i’r eglwys bron bob dydd, gyda’r nos a liw nos.” “Ysgrifennodd fy mam-gu y at fy nhad gan ddweud y byddai’n well iddo anfon amdana i, gan y buaswn ar fy mhen fy hun pe bai unrhyw beth yn digwydd iddi hi... roeddwn i’n 13 oed pan ddois i yma.”
“Fe wnes i ddechrau prentisiaeth fel peiriannydd... roeddwn i’n llwyddiannus ac fe es i’r Llynges fel peiriannydd. Yn 1968 oedd hynny... fe wnes i hedfan i Efrog Newydd, ymuno â’r llong... o’r fan honno, fe fuon ni yn Fietnam, fe wnaethon ni hedfan i Hong Kong gyda’r milwyr gan fod rhyfel yno. Roeddwn i oddi cartref am wyth mis... fe welais i ddioddef, cyrff meirw, roedd yn sioc ofnadwy...”
“Mae gen i ddwy faner i fyny yn fy nhŷ, baner St Kitts a Nevis a baner Cymru... Ar ôl bod o gwmpas Prydain, fuaswn i ddim yn byw yn unlle ond Caerdydd...”
“Mae cyfnodau heriol yn fy hanes, ond rwyf wedi cael mwy o adegau da nag adegau heriol. Mae pobl wedi gwneud imi deimlo’r fath groeso. Mae gen i lu o ffrindiau. Rwy’n teimlo’n unig er hynny, er fod gen i frindiau, ond rhyw unigrwydd sydd wedi bod gyda fi drwy gydol fy mywyd yw hwn, ac aiff o byth i ffwrdd.”