Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Cardiff Waterworks Co. beam engine
Yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y rhan fwyaf o gyflenwad dŵr Caerdydd yn cael ei dynnu o Afon Taf. Roedd yn frwnt iawn ac roedd pobl yn aml yn afiach ac yn sâl o’i blegid. Mewn epidemig eithriadol o gas o’r colera yn 1850 bu farw un o bob hanner cant o’r boblogaeth. Er mwyn darparu cyflenwad o ddŵr pur, adeiladodd Pwyllgor Gwaith Dŵr Caerdydd orsaf bwmpio newydd i bwmpio dŵr o Ffynhonnau Trelai yng ngorllewin y ddinas i Gronfa Penhill yn Llandaf.
Mae’r injan hon, a gynlluniwyd gan James Simpson ac a adeiladwyd yn Hayle, Cernyw, yn 1851, yn un o ddwy a osodwyd yn nhŷ’r pwmp. Yn nes ymlaen fe’i symudwyd i Gronfa Llanishen lle bu’n gweithio’n ysbeidiol hyd 1921. Yn 1932 penderfynodd Pwyllgor y Gwaith Dŵr y dylid ei chadw mewn adeilad oedd wedi’i godi’n arbennig ar gyfer ei harddangos, ond ni chafodd ei agor i’r cyhoedd o gwbl. Arhosodd yn Llanishen am bron hanner canrif wedyn, a dim ond dyrnaid o bobol a wyddai am ei bodolaeth.
Fe’i tynnwyd yn rhydd yn 1974 ai’i hail-adeiladu yn yr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru. Ni welwyd ond ambell injan drawst fel hon i bwmpio cyflenwadau dŵr i dai yng Nghymru am fod y rhan fwyaf o’r dŵr yn llifo trwy ddisgyrchiant o gronfeydd yn uchel yn y mynyddoedd.
Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984