Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Draeger breathing apparatus
Dechreuwyd defnyddio'r fath yma o offer tua 1904 a chafodd ei ddefnyddio mewn nifer o drychinebau mwyngloddio yn Ewrop a'r Unol Daleithiau. Roedd yr offer mor boblogaidd fel y daeth gweithwyr achub ym mhyllau glo'r Unol Daleithiau i gael eu galw'n 'ddynion Draeger'. Mae'n debyg mai enghraifft o fodel 1908/09 yw'r un hwn a chafodd ei ddefnyddio yn ôl pob tebyg yn ystod tanchwa Senghennydd gan mai dyma gynllun yr offer roedd dynion achub yr oes yn ei wisgo wrth geisio achub y glowyr yno. Er gwaethaf llwyddiant y Draeger, cafodd ei ddisodli gan gyfarpar Proto a wnaed ym Mhrydain yn ystod y cyfnod hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf.