Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Y Tŷ
Yn y braslun olew cyflym hwn, mae'r artist wedi cyfleu’r golau brith sy'n adlewyrchu oddi ar ffenestri talcen a drws tŷ dan orchudd o winwydd. Taenwyd y lliw mewn llyfiadau paent bywiog . Mae'r braslun pensil oddi tano yn amlwg, gan roi cipolwg i ni o broses greu yr artist.
Mae Henri le Sidaner yn enwog am ei baentiadau o gorneli stryd tawel a gerddi yn y gwyll, yn aml heb bresenoldeb dynol. Mae lliwiau fioled-lwyd, tawedog ei balet, a thonyddiaeth ysgafn ei waith yn creu awyrgylch o dangnefedd pruddglwyfus. Er bod ei waith yn dangos dylanwad Ôl-Argraffiadaeth, nid oedd yn cyfrif ei hun yn rhan o unrhyw fudiad penodol, gan ddweud yn hytrach 'os mynnwch fy nghatogoreiddio, Mewnolwr ydwyf' – mudiad gaiff ei gysylltu'n aml â'r artist o Gymru, Gwen John.