Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Guitar
Meic Stevens, 2007 'Dyma hen gitar Harmony, USA, Gwneuthpwyd yn Chicago yn 1959-60. Ces i hwn gan Pete Townsend (Y Who) un Llundain yn 1965. Hwn oedd y gitar wnês i iwsio pan recordiais y recordiau cyntaf i Recordiau'r Dryw yn Abertawe - caneuon fel Cân Walter, Yr eryr a'r golomen, Y Brawd Houdini a stwff y Bara Menyn. Hefyd un o'r offerynau wnes i iwsio a'r 'Outlander' (Warner Bros 1968). Dwy ddim yn iwsio hi lawer mwy, mae hi wedi bod mewn storek am rhai blynyddoedd.
Cyfansoddodd y canwr gwerin Meic Stevens rai o’i ganeuon enwocaf ar y gitâr yma. Rhoddwyd y gitâr iddo yn y chwedegau gan Pete Townsend o fand The Who.
Treuliodd flynyddoedd cynnar ei yrfa yn Llundain yng nghwmni cerddorion fel Bob Dylan, Cat Stevens, Stevie Winwood a Pete Townsend. Dychwelodd i Gymru er mwyn cyfansoddi a chanu yn Gymraeg, yn ei arddull seicedelig-werin ei hun.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.