Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Thomas (bu f. 1480) ac Elizabeth (bu f. 1533) Stradlinge
Dyma un o dri phanel a beintiwyd ar gyfer Capel y Forwyn yn Sain Dunwyd ac mae'n cynrychioli cenedlaethau o'r teulu Stradling, a fu'n dal tir yn ne Cymru a Gwlad yr Haf. Mae'r arysgrif ar y gwaelod yn dynodi mai Syr Thomas Stradling (a fu farw ym 1480) a'i wraig Elizabeth (a fu farw ym 1533) yw'r cwpwl. Mae'r arysgrif y tu ôl i'w ben y datgan DIED BEFORE HE WAS 26 YEARES OF AGE ac mae'r testun Lladin yn rhoi ei hoedran hi ar y pryd: ANNO AETA SUE 24. Mae eu plant, a fu farw'n gynhyrach na'r ddau, i'w gweld yn penlinio y tu ôl iddynt. Defnyddiwyd yr arwyddair sydd uwchben Thomas Stradling DVW A DIGON ('Mae duw yn ddigon') yn aml gan deuluoedd Cymreig. Eiddo Stradling yw'r arfbeisiau ar y chwith ac eiddo teulu ei wraig, y teulu Mathews o Radyr, yw'r arfbeisiau ar dde.