Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Jug
Mae patrwm geometrig haniaethol y jwg hwn yn nodweddiadol o arddull jugendstil, arddull o’r Almaen sy’n gyfystyr ag Art Nouveau. Mae’n bosibl i’r jwg gael ei gynhyrchu drwy gael ei daflu mewn mowld oedd â’r patrwm wedi’i gerfio iddo. Efallai bod caead piwter ganddo’n wreiddiol. Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd crochendy Gerz yn un o nifer yn rhanbarth Westerwald oedd yn cynhyrchu crochenwaith caled yn arddull Dadeni’r Almaen, ond daeth yn amlwg yn Arddangosfa Ganmlwyddiant Paris ym 1900 bod eu cynnyrch yn hen ffasiwn. Dyma nhw felly’n cyflogi pensaer-ddylunydd avant-garde blaenllaw i ddylunio crochenwaith â fflach newydd, cyffrous.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.