Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Gogoniant i'r Meirw
Ar ôl bod yn astudio peintio yn Antwerp a Munich dychwelodd Ford i Lundain i weithio fel cerflunydd portreadau. Dangoswyd y cerflun efydd hwn yn yr Academi Frenhinol yn y flwyddyn y bu farw. Hwn yw'r olaf mewn cyfres o ddelwau efydd bychain o ferched noeth a ddechreuwyd ym 1886 o dan ddylanwad Alfred Gilbert. Mae'r ffigwr yn crymu ac yn cyfleu tristwch dwfn. Mae'n dal ffagl bywyd.
(Nid oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.