Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Portread o Ddyn
Mae’n amlwg fod y dyn anhysbys hwn, yn ei gôt leinin ffwr, yn gyfoethog iawn. Mae Van Heemskerck wedi sylwi’n ofalus ar y manylion yn wyneb difrifol yr eisteddwr, ei wallt tywyll a’i aeliau amlwg. Y tu ôl iddo mae tirlun wedi’i beintio’n rhydd, sy’n dwyn atgofion o’r ffresgos hynafol y byddai’r artsit wedi eu gweld pan wrth astudio yn Rhufain. Mae’n debyg y deuai’r eisteddwyr o Haarlem, lle cafodd van Heemskerck ei hyfforddi, a lle’r ymgartrefodd yn ddiweddarach. Roedd Heemskerck yn ddisgybl i Jan van Scorel a threuliodd o 1532-35 yn Rhufain, lle bu'n astudio hrn olion Rhufeinig. Ar ôl dychwelyd i'r Iseldiroedd bu'n gweithio yn Haarlem yn arbenigo mewn lluniau llachar a phrintiau o themáu crefyddol ac alegorïau clasurol. Mae ei bortreadau, fel y gwaith hwn o tua 1540 a'i gymar, yn dangos rhyw naturioldeb tawel sy'n deillio o draddodiad yr Iseldiroedd yn y bymthegfed ganrif gan Jan van Eyck a Robert Campin.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.