Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Fferm yng Nghymru
Ar ôl bod yn astudio yn Rhydychen a Llundain, gwnaeth Armstrong enw iddo'i hun yn ystod y 1930au fel arlunydd a dylunydd. Daeth yn aelod o Unit One ym 1933 gan ddatblygu arddull Swreal, freuddwydiol. Cafodd gyfle naturiol i fynegi ei ddiddordeb mewn adfeilion a delweddau o ddirywiad pan wnaed ef yn arlunydd rhyfel swyddogol. Efallai mai'r un ffermdy wedi ei ddinistrio gan fom yw hwn â'r un a beintiwyd gan Graham Sutherland ym 1940, yn Aberddawan ger gorsaf y Llu Awyr Brenhinol yn Sain Tathan i'r gorllewin o Gaerdydd.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.