Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Holiadur | questionnaire
Nodiadau manwl yn y Gymraeg a'r Saesneg gan Charles H. Humphreys, sir Drefaldwyn, 1943, a oedd yn ymateb i holidaur Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar ddiwylliant gwerin Cymru, 1937. Hefyd llythyr a anfonwyd ganddo at Dr Iorwerth C. Peate (5 Fawrth 1943) fel atodiad i'r nodiadau.
Holwyddoreg ar Ddiwylliant Gwerin Cymru, 1937 Paratowyd gan Adran Diwylliant Gwerin Amgueddfa Genedlaethol Cymru a chyhoeddwyd yn Rhagfyr 1937. Anfonwyd yr holiadur i blwyfi, ysgolion a unigolion fel modd o gasglu gwybodaeth am bob agwedd o ddiwylliant gwerin Cymru. Rhannwyd yr holiadur o dan y pynciau canlynol: cartref ac aelwyd, bywyd corfforedig, bywyd diwylliannol, crefftau a diwydiannau. Roedd yr amgueddfa yn awyddus i ymgysylltu gyda phobl Cymru a chydweithio gydag atebwyr yr holiadur wrth fynd ati i gasglu hanesion a gwrthrychau fel sail i sefydlu Amgueddfa Werin Cymru yn 1948.