Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Trailing past
Mae'r gwaith hwn yn talu teyrnged i le coll. Magwyd Edwards ar ystâd gyngor yn Llanedeyrn, ac ysbrydolwyd y gwaith hwn gan y gwaith dur gerllaw yng Nglynebwy, lle'r oedd ei dad yn gweithio. Mae'r cerflun yn dwyn i gof y rhwygiadau cymdeithasol a achoswyd yn sgil dad-ddiwydiannu a'r cymunedau a ddadleolwyd. Mae'r gwaith yn creu collage o ddarnau archifol ar ei arwyneb, er mwyn archwilio atgofion teuluol a diwylliannol.
Label gan Evie Banks o'r grŵp Codi'r Llen ar Gaffael, 2023.