Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Red self-portrait
Mae’r hunanbortread mawr hwn yn dangos yr artist wrth ei gwaith. Fel mwyafrif y golygfeydd o’i stiwdio, mae’r ystafell yn anniben gydag offer paentio ym mhobman, a gallwn weld motiff cyfarwydd y beret coch y bydd yn ei wisgo wrth weithio. Enillodd Hunanbortread Coch wobr gyntaf Cystadleuaeth Gelf Hunting/Observer 1993. Ganwyd Shani Rhys-James yn Awstralia i rieni o Gymru ym 1953. Wedi astudio yng Ngholeg Celf Loughborough a Choleg Celf St Martins yn Llundain, symudodd i Gymru ym 1984. Yn St Martins cafodd ei dysgu gan Gillian Ayres, ymhlith eraill, a daeth nodweddion haniaethol paent yn elfen yn ei harddull drosiadol. Mae’n mwynhau gwead paent, ei liw a’i egni. Yn 2003 enillodd wobr baentio Jerwood.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.