Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
4 Lliw
Mae Bridget Riley wedi cael llwyddiant rhyngwladol gyda’i phaentiadau ‘op art’ haniaethol. Du a gwyn oedd ei gweithiau cynnar, a dechreuodd ddefnyddio lliw yn ddiweddarach.
Ar ôl bod yn yr Aifft ym 1981, dechreuodd weithio ar ei ‘phalet Eifftaidd’, wedi’i ysbrydoli gan dirwedd a chelf hynafol y wlad.
Mae’r gwaith hwn yn arbrawf cynnar o effeithiau cyfuno lliwiau. Plotiodd Riley y pedwar lliw yn ofalus ar bapur graff, gan ysgrifennu cyfarwyddiadau ar sut i gael yr effaith weledol orau