Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Raphael Martin
“Rydych chi mewn dosbarth o 30 a chi yw’r unig berson Du. Felly, roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy o anghyfforddus... fe ges i’r gansen bob un dydd... nes oeddwn i’n 14.”
Ganed Raphael Martin yn Ysbyty Dewi Sant Caerdydd yn 1964. Mae ganddo atgofion lu o fywyd ei rieni, a fudodd o Jamaica i Gymru.
“Daeth fy nhad drosodd yma yn 1951, i Birmingham. O Jamaica ddaeth e, ganed ef yno ym mis Medi 1917, fe fuasai’n 102 oed pe byddai’n fyw heddiw...”
“Yn y dyddiau hynny, doedd dim math o groeso gan eglwysi, gwyn oedd yr eglwysi gan mwyaf... Felly roedd yn hawdd bryd hynny i bobl Dduon sefydlu eglwysi... fy nhad i oedd yn cynnal yr eglwys Bentecostaidd Ddu gyntaf yng Nghymru.”
“Ar ôl [trychineb] Aberfan – y tirlithriad yn 1966 – daeth Dad draw a gweddïodd a phopeth yma...”
“Buasai Dad yn dod â phobl i fyny i ble bynnag roedd e ym Merthyr, a dywedodd fod y plant i gyd wedi dod mas i’r fan, yn dweud ‘Pwy yw’r rhain?’ am nad oedden nhw wedi gweld pobl Dduon go iawn o’r blaen.”
“Plentyn oeddwn i fel pob un arall, ond roeddwn i’n Ddu, ac roeddwn i’n cael fy nghuro dim ond am fy mod i’n Ddu...”
“Fe ddysgais fod gan bobl Dduon drwynau mawrion a gwefusau mawrion, a’u bod yn hyll ac yn edrych fel mwncïod... Rwy’n gwybod mai o’r ysgol y dysgais i hynny, felly roeddwn i’n rhagfarnllyd, neu’n hiliol, tuag at fy mhobl fy hun... Pan rydyn ni’n ifanc, dydyn ni ddim wir yn deall hiliaeth, mor ddwfn na mor ddrwg yw e...”
“Rwy’ wedi cael fy nhynnu drosodd yn fy nghar droeon, fe fuaswn i’n gyrru, yn stopio, roedden nhw’n aflonyddu arnaf i...”
“Mae angen inni drin pawb gyda pharch a chariad. Dyna sut y dylem ni fod.”
“Fy nyhead erbyn hyn... yw pe bai fy nhad wedi... siarad gyda mi am sut roedd pethau... a hynny er mwyn fy mhlant i, i gadw eu diddordeb, o leiaf mae yna rywbeth yma nawr, a diolch i Dduw am hynny.”