Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Overshot waterwheel from Dolaucothi
Mae’r olwyn ddŵr yn nodweddiadol o gannoedd lawer a ddefnyddid yng Nghymru i yrru meini melinau, meinciau llifio, melinau gwlân, neu unrhyw bieriant bach bron.
Yn yr enghraifft hon mae’r dŵr yn mynd i’r bwcedi ar ben yr olwyn. Defnyddiad y dull yma’n helaeth yn ardaloedd mynyddig Cymru lle nad oedd unrhyw anhawster i gael digon o rym yn y dŵr i yrru’r rhod. Mewn rhannau eraill o Brydain, lle’r oeddy ddaear yn wastad, roedd ffrydiau cyflym yn cael eu cyfeirio i daro’r bwcedi ar waelod yr olwyn.
Yn Ffowndri’r Eagle, yn Aberystwyth, y cafodd yr olwyn sy’n cael ei dangos yma ei gwneud. Fe'i gosodwyd mewn fferm ar Stad Dolaucothi yn Nyfed tua 1907 ac fe’i defnyddid i yrru mainc-lifio a hogfaen.
Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984