Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Cyflenwi'r Llynges
Cyflawnodd y llynges fasnachol dasgau allweddol yn ystod y rhyfel, gan gynnwys cefnogi llongau'r llynges, cludo milwyr a chario cyflenwadau hanfodol. Roedd yn beryg bywyd, a mawr fu colledion y fflyd. Yn llun Pears gwelwn y llongau yn eu holl fanylder.
Ganwyd Pears yn Pontefract, Swydd Efrog, ac er ei lwyddiant fel darlunydd a lithograffydd, mae'n bennaf enwog am ei forluniau. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yn swyddog â chomisiwn gyda'r Morlu Brenhinol, a bu'n gweithio fel artist morol swyddogol rhwng 1914 a 1918, ac eto ym 1940. Cafodd hefyd yrfa lwyddiannus fel cynllunydd posteri, gan greu gweithiau i gwmnïau fel trenau tanddaearol Llundain.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio 'The Great War: Britain's Efforts and Ideals', gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 i ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.