Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Traeth Fforest, Bae Ceredigion
Artist o Lundain oedd John Brett, a oedd fwyaf adnabyddus am ei olygfeydd o fywyd y wlad. Ar ddechrau ei yrfa roedd llawer o werthoedd y Brodyr Gyn-Raffaelaidd yn mynd â’i fryd, yn enwedig eu hamrywiaeth i gyfleu natur yn gywir. O’r 1870au arbenigodd Brett ar olygfeydd o arfordir Prydain. Yn ystod yr haf byddai’n hwylio yn ei gwch hwylio, ‘Viking’ gyda’i wraig a’i saith o blant ar hyd arfordir Cymru, Cernyw a’r Alban. Gwnaeth frasluniau daearyddol a thopograffaidd manwl ac mae’n debyg iddo dynnu ffotograffau hefyd gan beintio tirluniau ohonynt wedyn yn y stiwdio. Mae Forest Cove, a elwir bellach yn Aberfforest, i'r dwyrain o ben Dinas, y penrhyn creigiog sy'n ffurfio pen dwyreiniol Bae Abergwaun. Mae Brett yn rhoi sylw arbennig yma i strwythur y creigiau, gan ddatgelu ei diddordeb mewn daeareg. Neilltuodd Brett ei flynyddoedd diweddarach i deithio a pheintio arfordir Prydain. Ysgrifennodd mai Sir Benfro oedd yr 'unig un lle glan môr boddhaol iawn ar holl arfordir Prydain'.