Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Glofa'r Six Bells, Abertyleri, De Cymru
Yr olygfa hon o Lofa Six Bells, Abertyleri yn nyffryn yr Ebwy Fach yw un o weithiau mwyaf Lowry o ran maint. Bu Cymru yn destun i Lowry ddwywaith yn ei yrfa: yn ystod y 1920au, pan dreuliodd gyfnod yn y Rhyl, ac ar ddechrau'r 1960au pan anogwyd ef gan ei gyfaill a'i noddwr, Monty Bloom, i baentio cymoedd de Cymru. Magwyd Bloom yn y Rhondda, a chyneuodd yr ymweliadau hyn ddiddordeb o'r newydd yn Lowry mewn golygfeydd diwydiannol. Ysbrydolodd y cyfuniad anarferol o dirwedd arw'r Cymoedd a'r trefi poblog grŵp o baentiadau sydd ymhlith rhai o weithiau diweddaraf mwyaf ysbrydoledig yr arlunydd, er eu lleied. Mae'r rhain yn cynnwys golygfa banoramig debyg o Lynebwy, 1960, sydd yn Oriel Gelfyddyd ac Amgueddfa Herbert yn Coventry, a golygfa gyfoes o allt ger Abertyleri, sydd bellach yng nghasgliad y tate. Roedd Glofa Six Bells ddeuddeg milltir i'r gogledd o Gasnewydd, ac yma y digwyddodd trychineb lofaol waethaf y cyfnod wedi'r rhyfel yng Nghymru. Ar 28 Mehefin 1960, roedd ffrwydriad yn y pwll a chollodd 45 o bobl eu bywydau. Dyma oedd y pwll olaf i gau yn Abertyleri - bu ar waith rhwng 1898 a 1988.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.