Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Holiadur | questionnaire
Nodiadau a darlun yn y Saesneg, wedi ei dynnu a llaw, ac yn dyddio o 1938, gan Y Gwir Anrhydeddus W.G.A. Ormsby-Gore (11 Ebrill 1885 - 14 Chwefror 1964), a oedd yn Aelod Seneddol, ac yn ddiweddarach yn Arglwydd Harlech. Mae'r nodiadau a'r darlun yn rhoi gwybodaeth am ei dŷ sef Glyn Cywarch yn Sir Feirionnydd, a oedd yn blas cofrestredig a adeiladwyd gan Wiliam Wynn yn 1616. Yn ogystal danfonwyd llythyr ganddo at Syr Cyril Fox. Roedd y wybodaeth yn ymateb i holiadur Amgueddfa Genedlaethol Cymru,1937, ar ddiwylliant gwerin Cymru. Roedd yr Arglwydd Harlech yn Aelod Seneddol i etholaeth bwrdeistref Dinbych. Roedd ganddo ddiddordeb brwd mewn amgueddfeydd, ac yn ymddiriedolwr i'r Oriel Genedalethol ac Oriel y Tate. Roedd hefyd yn gadeirydd pwyllgorau ymgynghorol Amgueddfa Victoria ac Albert, a Chomisiwn Standing ar Amgueddfeydd ac Orielau rhwng 1948 a 1956. Roedd ei fab David Ormsby-Gore, y pumed Arglwydd Harlech, yn llysgennad Prydeinig i'r Unol Dalieithiau rhwng 1961 a 1965, ac a chysylltiadau agos gyda'r teulu Kennedy.
Holwyddoreg ar Ddiwylliant Gwerin Cymru, 1937 Paratowyd gan Adran Diwylliant Gwerin Amgueddfa Genedlaethol Cymru a chyhoeddwyd yn Rhagfyr 1937. Anfonwyd yr holiadur i blwyfi, ysgolion a unigolion fel modd o gasglu gwybodaeth am bob agwedd o ddiwylliant gwerin Cymru. Rhannwyd yr holiadur o dan y pynciau canlynol: cartref ac aelwyd, bywyd corfforedig, bywyd diwylliannol, crefftau a diwydiannau. Roedd yr amgueddfa yn awyddus i ymgysylltu gyda phobl Cymru a chydweithio gydag atebwyr yr holiadur wrth fynd ati i gasglu hanesion a gwrthrychau fel sail i sefydlu Amgueddfa Werin Cymru yn 1948.