Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Crocodeil Dŵr Hallt
Artist Cynfrodorol amlwg o ranbarth Tir Arnhem yn Awstralia oedd Mick Kubarkku. Pan oedd yn 15 oed, dysgodd ei dad iddo arwyddocâd diwylliannol a thechnegau crefftio i greu paentiadau ar gyfer seremonïau cysegredig. Mae celf a phwnc Kubarkku yn barhad uniongyrchol o'i hunaniaeth Gynfrodorol yn Awstralia. Gan dynnu ar draddodiadau celf ogofâu, mae'i waith wedi'i greu ag ansawdd amrwd, garw ac uniongyrchol. Paentiwyd y crocodeil dŵr hallt mawr hwn gan ddefnyddio pigmentau sy'n digwydd yn naturiol ar ochr fewnol llyfn y goeden linrisgl, sy'n gyffredin i rannau gogleddol Awstralia.